Cei Connah yn ennill Cwpan Nathaniel MG

mg nathaniel
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 1 Chw 2020, 19:21

Bydd bechgyn Andy Morrison yn cystadlu yng Nghwpan Tunnock’s Yr Alban y tymor nesaf ar ôl curo STM Sports 3-0 a chodi tlws Cwpan Cynghrair Cymru.

Dau beniad gan Michael Wilde yn yr hanner cyntaf, a foli hyfryd gan Jamie Insall eiliadau i mewn i’r ail hanner yn ennill y gwpan i Gei Connah.

Llwyddodd Cei Connah i guro STM Sports o’r Cymru South a sicrhau lle tîm Andy Morrison yng nghwpan her yr Alban y tymor nesaf.