Clasuron Sgorio

Y Bala v YSN 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 6 Mai 2020, 15:00

Bydd Sgorio yn ail ddangor rhai o glasuron y Cymru Premier a Chwpan Cymru dros yr wythnosau nesaf, gan ddechrau ar ddydd Sul 10 Mai.

Bydd Sgorio yn dangos cyfres o gemau cofiadwy o Gwpan Cymru a’r Cymru Premier dros y mis nesaf.

Bydd y gyfres, sy’n dechrau ar ddydd Sul 10 Mai, yn cynnwys Bangor v Y Seintiau Newydd 2010, Caernarfon v Y Seintiau Newydd 2014 ac Y Bala v Y Seintiau Newydd 2017.

Clasuron Sgorio
Sul 10/05 – Bangor 1-0 Y Seintiau Newydd (30/04/10 – Bangor yn ennill y bencampwriaeth.)
Sul 17/05 – Caernarfon 2-3 Y Seintiau Newydd (30/11/14 – Wal Yr Oval yn disgyn a’r Cofi Messi yn disgleirio.)
Sul 24/05 – Y Bala 2-1 Y Seintiau Newydd (30/04/17 – Y Bala yn ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.)

Y darllediadau i gyd i ddechrau am 16:15 ar S4C