Cyhoeddi Carfan Cymru C

Carfan Cymru C
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 11 Maw 2020, 14:15

Bydd Cymru C, sef tîm o sêr o’r Cymru Premier yn wynebu Lloegr C ar Yr Oval, Caernarfon mewn gêm gyfeillgar ar nos Fawrth 24 Mawrth, gyda’r gêm yn fyw ar lwyfannau ar-lein Sgorio (Youtube/Facebook Live) ac ar S4C Clic am 19:45.

Mae Mark Jones, rheolwr Cymru C wedi cyhoeddi ei dîm i wynebu Lloegr C ar Yr Oval ar 24 Mawrth mewn gêm gyfeillgar.

Met Caerdydd a’r Barri yw’r clybiau gyda’r nifer mwyaf o chwaraewyr yn y garfan eleni, gyda phump o’r ddau glwb yn ymuno.

Mae ymosodwyr Met a’r Barri, sef Eliot Evans a Kayne McLaggon wedi cadw eu lle yn y garfan am y trydydd tymor yn olynol, gyda Chris Hugh, amddiffynnwr chwith Y Barri, hefyd yn cadw ei le am y trydydd tymor.

Mae prif sgoriwr y Cymru Premier, Chris Venables (Y Bala) hefyd yn cadw ei le am y trydydd tymor yn olynol, gyda chwaraewr canol cae y pencampwyr, Aeron Edwards hefyd yn aelod cyson o’r garfan ers 2018.

Bydd tri aelod o dîm Caernarfon hefyd yn y garfan, y golwr Alex Ramsay yn dychwelyd, gyda Leo Smith a’r Cofi Messi, Darren Thomas yn ymuno â’r garfan am y tro cyntaf.

Mae 11 o carfan 2019 yn cadw eu lle, gyda Nathan Peate (Derwyddon Cefn), Emlyn Lewis (Met Caerdydd), Callum Roberts (Cei Connah), Joel Edwards (Met Caerdydd) a Clayton Green (Y Barri) hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Mae’r gêm gyfeillgar rhwng Cymru C a Lloegr C wedi mynd yn achlysur blynyddol, gyda Chymru yn croesawu Lloegr i Barc Jenner yn 2018, yn teithio i Stadiwm Peninsula, Salford i herio Lloegr yn 2019 a blwyddyn yma bydd y gêm yn cael ei gynnal ar Yr Oval, Caernarfon.

Gemau blaenorol
2018: Cymru C 2-3 Lloegr C
2019: Lloegr C 2-2 Cymru C

Carfan Cymru C

Gôl-geidwaid
Connor Roberts (Aberystwyth, ar fenthyg o’r Seintiau Newydd)
Alex Ramsay (Caernarfon)

Amddiffynwyr
Callum Roberts (Cei Connah)
Nathan Peate (Derwyddon Cefn)
Joel Edwards (Met Caerdydd)
Emlyn Lewis (Met Caerdydd)
Dylan Rees (Met Caerdydd)
Chris Hugh (Y Barri)
Luke Cummings (Y Barri)

Canol cae
Leo Smith (Caernarfon)
Darren Thomas (Caernarfon)
Kane Owen (Pen-y-bont)
Clayton Green (Y Barri)
Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd)

Ymosodwyr
Eliot Evans (Met Caerdydd)
Will Evans (Met Caerdydd)
Chris Venables (Y Bala)
Kayne McLaggon (Y Barri)

Ieuenctid
Lee Jenkins (Aberystwyth)
Evan Press (Y Barri)