Cyhoeddi Carfan Cymru i wynebu’r Ffindir a Bwlgaria

hal mawr
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 25 Awst 2020, 12:01

Hal Robson-Kanu yn dychwelyd i garfan Cymru gyda Neco Williams (Lerpwl) a Ben Cabango (Abertawe) yn ymuno am y tro cyntaf ar gyfer y gemau yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

    • – Neco Williams a Ben Cabango yn ymuno â’r garfan am y tro cyntaf

– Hal Robson-Kanu a David Brooks yn dychwelyd i’r garfan

– Dim lle i Christian Doidge ar ôl serennu i Hibernian yn Uwch Gynghrair yr Alban

– Y Ffindir v Cymru (03/09) a Bwlgaria v Cymru (06/09) yn fyw ar S4C

Mae Ryan Giggs wedi enwi ei garfan i wynebu Y Ffindir a Bwlgaria yn gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Medi.

Y newyddion mawr yw bod un o arwyr Ewro 2016, Hal Robson-Kanu yn dychwelyd i’r garfan ar ôl ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2018.

Cafodd Robson-Kanu dymor llwyddiannus gyda West Bromwich Albion yn y Bencampwriaeth gan rwydo 10 gôl gan helpu’r tîm ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Robson Kanu eisoes wedi ennill 42 cap i Gymru, gan rwydo ar bum achlysur – gan gynnwys y gôl gofiadwy ‘Cruyff turn’ yn erbyn Gwlad Belg yn Ewro 2016.

Mae David Brooks hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl tymor llawn anafiadau i Bournemouth.

Mae’r asgellwr eisoes wedi ennill 12 cap gan sgorio unwaith yn erbyn Croatia yn Osijek yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020.

Yn ymuno â selogion y garfan bydd dau amddiffynnwr ifanc cyfrous, Neco Williams a Ben Cabango.

Mae Williams eisoes wedi ennill wyth cap i’r tîm dan-19 ac yn ymuno â’r tîm cyntaf am y tro cyntaf. Daw hyn ar ôl iddo hefyd greu argraff yn nhîm cyntaf Lerpwl wrth iddi nhw gipio pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr.

Un arall yn y brif garfan am y tro cyntaf yw amddiffynwr canol Abertawe, Ben Cabango.

Cafodd Cabango gyfnod ar fenthyg gyda’r Seintiau Newydd yn 2018/19 cyn sefyldu ei hun yn nhîm cyntaf Abertawe y tymor diwethaf gan lwyddo i orffen yn safleoedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth.

Bydd Cymru yn teithio i wynebu’r Ffindir ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd Uefa ar nos Iau 3 Medi, cyn croesawu Bwlgaria i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sul 6 Medi, gyda’r ddwy gêm yn fyw ar S4C.

Carfan Cymru i wynebu’r Ffindir a Bwlgaria

Gôl-geidwaid

Wayne Hennessey – Crystal Palace

Danny Ward – Leicester City

Adam Davies – Stoke City

Amddiffynwyr

Chris Gunter –

Ashley Williams –

Ben Davies -Tottenham Hotspur

Connor Roberts – Swanesa City

Tom Lockyer – Charlton Athletic

Ethan Ampadu – Chelsea

James Lawrence – R.S.C Anderlecht

Ben Cabango – Swansea City

Neco Williams – Liverpool

Canol cae

Aaron Ramsey – Juventus

Jonathan Williams – Charlton Athletic

Harry Wilson – Liverpool

David Brooks -A.F.C Bournemouth

Matthew Smith – Manchester City

Daniel James -Manchester United

Will Vaulks – Cardiff City

Joe Morrell -Bristol City

Dylan Levitt – Manchester United

Ymosodwyr

Gareth Bale – Real Madrid

Hal Robson-Kanu -West Bromwich Albion

Tyler Roberts -Leeds United

Rabbi Matondo -Schalke

Kiefer Moore -Cardiff City