Cyhoeddi gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD

89510582_3030855580307900_5720292321057046528_n
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 6 Maw 2020, 11:47

Bydd Caernarfon v Met Caerdydd yn fyw ar S4C nos Sadwrn 4 Ebrill am 17:15, gyda Phrestatyn v Y Seintiau Newydd yn fyw ar-lein ddydd Sul y 5 Ebrill am 13:00.

Mae S4C a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi lleoliadau rownd cynderfynol Cwpan Cymru JD 2019/20, gyda’r gemau i’w chwarae ar benwythnos 4-5 Ebrill.

Ar ôl y fuddugoliaeth 4-0 dros Derwyddon Cefn bydd Caernarfon yn cystadlu am eu lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes yn erbyn Met Caerdydd.

Llwyddodd Met Caerdydd i guro Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy – y tîm cyntaf i ennill yno ers mis Mawrth 2019 – yn rownd yr wyth olaf.

Bydd Caernarfon a Met Caerdydd yn brwydro am eu lle yn y rownd derfynol ar Barc Latham, Y Drenewydd nos Sadwrn 4 Ebrill am 17:15, gyda’r gêm yn fyw ar S4C.

Mi fydd yr ail rownd gynderfynol yn cael ei chwarae yn Stadiwm Grŵp Hollingsworth, Brychdyn rhwng Prestatyn a’r Seintiau Newydd yn fyw ar-lein (Facebook, Youtube a S4C Clic) ar ddydd Sul 5 Ebrill am 13:00.

Llwyddodd Prestatyn i guro’r Fflint i selio eu lle yn y pedwar olaf, gyda’r deiliaid – Y Seintiau Newydd – yn trechu’r Drenewydd 6-1 ar Neuadd y Parc.

Gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD
04/04/2020 – Caernarfon v Met Caerdydd – yn fyw ar S4C o Barc Latham, Y Drenewydd am 17:00, y gic gyntaf am 17:15.

05/04/2020 – Prestatyn v Y Seintiau Newydd – yn fyw ar-lein o Stadiwm Grwp Hollingsworth, Brychdyn am 13:00.