Cymru i wynebu’r Iseldiroedd yn eu paratoadau ar gyfer Ewro 2020

International Football – Friendly – Wales v The Netherlands
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 17 Chw 2020, 11:07

Bydd Cymru yn teithio i Rotterdam ar gyfer eu gêm olaf cyn EWRO 2020 yn erbyn yr Iseldiroedd.

Dyma fydd cyfle olaf i chwaraewyr Ryan Giggs serennu cyn i’r garfan hedfan i Baku ar gyfer rownd terfynol y twrnamaint.

Chwaraeodd y ddau dîm yn erbyn ei gilydd cyn EWRO 2016, mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 2015. Sgoriodd Joe Ledley ac Emyr Huws mewn gêm agos, ond ail gôl Arjen Robben ar ôl 81 munud oedd y gwahaniaeth, gan sicrhau buddugoliaeth o 3-2 i’r Iseldiroedd.

Bydd Ryan Giggs yn gobeithio am gêm debyg ym mis Mehefin, wythnos yn unig cyn gêm agoriadol Cymru yn EWRO 2020 yn erbyn y Swistir.