Cynghrair y Cenhedloedd 2020: Cymru i gystadlu hefo’r Ffindir, Iwerddon a Bwlgaria

Football – UEFA Nations League Draw
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 3 Maw 2020, 17:46

Cymru i gystadlu yn Cynghrair B, Grŵp 4 Cynghrair y Cenhedloedd 2020 gyda’r Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria. Bydd y gemau yn cael ei chwarae ym mis Medi, Hydref a Tachwedd 2020, gyda lle yn Cwpan y Byd 2022 yn y fantol.

Cafodd gemau Cynghrair y Cenhedloedd ei gyhoeddi mewn seremoni yn Amsterdam ddydd Mawrth, 3 Mawrth gyda Chymru wedi eu dethol i chwarae yng Ngrŵp 4 Cynghrair B y gystadleuaeth.

Er fod Cynghrair y Cenhedloedd 2018 yn cynnig llwybr i rowndiau terfynol Euro 2020, nid yw’r un peth yn wir y tro hwn gan mai dim ond dau dîm o’r 55 sy’n cystadlu yng Nghynghrair y Cenhedloedd fydd â chyfle i fynd i gemau ailgyfle Cwpan y Bydd 2022.

Gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Y Ffindir v Cymru – Dydd Iau, 3 Medi 2020

Cymru v Bwlgaria – Dydd Sul, 6 Medi 2020

Gweriniaeth Iwerddon v Cymru – Dydd Sadwrn, 10 Hydref 2020

Bwlgaria v Cymru – Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020

Cymru v Gweriniaeth Iwerddon – Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2020

Cymru v Y Ffindir – Dydd Llun, 16 Tachwedd 2020