Gwyliwch gemau cyfeillgar Cymru yn fyw ar S4C

gemau cyfeillgar cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 10 Maw 2020, 13:00

Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn paratoi ar gyfer UEFA Euro 2020 gyda gemau cyfeillgar mis yma a bydd y ddwy gêm i’w gweld yn fyw ar S4C.

Bydd criw Sgorio yn darlledu’n fyw o Stadiwm Liberty, Abertawe, ar gyfer y gêm rhwng y Dreigiau ac Awstria ar nos Wener 27 Mawrth.

Tridiau yn ddiweddarach, ar nos Lun 30 Mawrth, bydd Cymru yn croesawu Unol Daleithiau America i Stadiwm Dinas Caerdydd, a bydd y gêm hon hefyd yn cael ei dangos yn fyw gan Sgorio.

Dyma’r gemau cyntaf yn 2020 i dîm Ryan Giggs, gyda llai na thri mis yn weddill tan ddechrau Euro 2020.

Mis Medi 2017 oedd y tro diwethaf i Gymru herio Awstria, mewn gêm gaiff ei chofio yn bennaf am gôl ryngwladol gyntaf Ben Woodburn – gôl a seliodd fuddugoliaeth 1-0 i Gymru.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i dîm cenedlaethol America chwarae yng Nghymru. Unwaith mae’r ddau dîm wedi cwrdd â’i gilydd yn y gorffennol, wrth i’r Unol Daleithiau ennill 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn San Jose, yn ôl ym mis Mai 2003.

Bydd darllediadau’r ddwy gêm yn cychwyn am 7.25, gyda’r gic gyntaf yn y ddwy gêm am 7.45.

Sgorio Rhyngwladol: Cymru v Awstria
Nos Wener 27 Mawrth, 7.25

Sgorio Rhyngwladol: Cymru v Unol Daleithiau America
Nos Lun 30 Mawrth, 7.25

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill