Gwyliwch rhai o gemau gorau Cymru dan Ryan Giggs eto ar S4C

cyhoeddi gemau byw sgorio-Recovered
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 9 Ebr 2020, 13:55

Dros yr wythnosau nesaf, bydd S4C yn ail-ddangos rhai o gemau fwyaf cofiadwy tîm bêl-droed Cymru yn ystod cyfnod Ryan Giggs fel rheolwr.

Fe gafodd Giggs ei benodi yn rheolwr ar Gymru yn Chwefror 2018 ac i ddathlu’r hyn mae’r tîm wedi cyflawni yn y cyfamser, fe fydd Sgorio yn dangos pum gêm o’r cyfnod, dros bum benwythnos.

Bydd y gyfres yn cychwyn ar nos Sadwrn 18 Ebrill gyda gêm gartref Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, cafodd ei chwarae yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA mis Medi 2018.

Yna, ar nos Sadwrn 25 Ebrill, byddwn ni’n ail-fyw’r gêm ragbrofol UEFA Euro 2020 a chwaraewyd oddi gartref yn erbyn Slofacia, cyn ail-ddangos y gêm gartref yn erbyn Croatia wythnos yn ddiweddarach, ar nos Sadwrn 2 Mai.

Bydd y gyfres yn parhau nos Sadwrn 9 Mai gydag ailddarllediad o’r gêm rhwng Azerbaijan a Chymru, cyn dod i ben ar nos Sadwrn 16 Mai drwy ddangos gêm olaf Cymru yn eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020, gartref yn erbyn Hwngari.

Bydd y gemau i’w weld am 5.30pm ar S4C, ac mi fyddan nhw ar gael i’w gwylio ar alw ar S4C Clic.

Gemau a dyddiadau darlledu
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon – 18/04
Slofacia v Cymru – 25/04
Cymru v Croatia – 02/05
Azerbaijan v Cymru – 09/05
Cymru v Hwngari – 16/05