Mwy o Sgorio

MoS
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 22 Ion 2020, 11:20

Rhaglen gylchgrawn sy’n dathlu’r gorau o bêl-droed Cymru. Gwion Tegid, aelod o gast Rownd a Rownd, sy’n cadw cwmni i Dylan Ebenezer a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Malcolm Allen ar y soffa, i roi byd y bêl gron yn ei le. Bydd eitemau amrywiol yn cynnwys cyfweliad arbennig a rhagolwg o Gwpan Cymru, yn ogystal â dod i adnabod un o dimau llawr gwlad Cymru. Nos Fercher, 22:00 ar S4C.