Rhagolwg: Cei Connah v Y Seintiau Newydd

thumbnail_cei con v ysn (1)
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 20 Chw 2020, 14:06

Gêm allweddol yn y ras am y Bencampwriaeth yn fyw o Stadiwm Glannau Dyfrdwy. Mae’r Seintiau’n geffyl blaen cyfarwydd yn Uwch Gynghrair Cymru JD, fel y pencampwyr am yr wyth tymor diwethaf. Ond mae Cei Connah wedi bod yn brathu ar eu sodlau ers sawl blwyddyn bellach ac wedi hawlio’r ail safle ar sawl achlysur. Gobaith Andy Morrison a’i griw yw mynd un yn well y tymor hwn. Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer a’r criw nos Wener am 19:55, gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Cei Connah v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 20:00 (S4C)
Mae’r Seintiau Newydd wedi colli pum gêm gynghrair mewn tymor am y tro cyntaf ers 2007/08, ac mae’r pencampwyr yn dechrau’r penwythnos un pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr, Cei Connah.

Roedd y clybiau mewn sefyllfa tebyg iawn y tymor diwethaf, Cei Connah yn arwain y pac tan i’r Seintiau eu curo ar Lannau Dyfrdwy ym mis Mawrth gan fynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth – dyw’r Nomadiaid heb golli ar Lannau Dyfrdwy ers y gêm honno bron i flwyddyn yn ôl.

Mae’r Seintiau Newydd ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Cei Connah (ennill 5, cyfartal 1) a thîm Scott Ruscoe enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau ar ddiwedd rhan gynta’r tymor, ond roedd Andy Morrison yn teimlo’n rhwystredig bod penderfyniadau dadleuol wedi mynd o blaid y Seintiau y noson honno.

Gemau diwethaf:
Y Seintiau Newydd 2-1 Cei Connah (18/01/20)
Cei Connah 1-1 Y Seintiau Newydd (01/11/19)