Rhagolwg: Pen-y-bont v Caernarfon

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 3 Ion 2020, 11:00

Un gêm yn yr uwch gynghrair dros y penwythnos wrth i Gaernarfon deithio i Stadiwm Gwydr SDM i wynebu Pen-y-bont. Uchafbwyntiau ar S4C dydd Llun am 5:30.

Pen-y-bont v Caernarfon | Sadwrn – 14:30

Bydd Pen-y-bont yn croesawu’r Cofis i Stadiwm Gwydr SDM ar gyfer eu hail gêm gartref o 2020.

Gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Caerfyrddin oedd hi ar ddiwrnod flwyddyn newydd, gyda Luke Bowen yn sgorio yn hwyr yn y gêm i gipio pwynt i’r Hen Aur.

Mae tîm Rhys Griffiths yn eistedd yn safleoedd y cwymp ar ôl rhediad sâl o ganlyniadau – gan ennill dim ond un o’u 12 gêm ddiwethaf yn y gynghrair.

Serch hyn, bydd cyfle i Ben-y-bont ddringo i’r 10fed safle dydd Sadwrn os yw’r tîm yn sicrhau pwynt, gan yrru Caerfyrddin nôl lawr i safleoedd y cwymp.

Ar ôl rhediad da o ennill pump o’u chwe gêm gynghrair cyn cyfnod y Nadolig, mae’r Cofis wedi colli dwywaith yn erbyn Y Bala dros gyfnod yr ŵyl. Fe gollodd y Cofis 1-2 ar Yr Oval ar ddydd San Steffan cyn colli 3-0 ar Faes Tegid pedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Er y canlyniadau siomedig dros gyfnod y Nadolig, bydd Sean Eardley a’i dîm yn gallu sicrhau lle yn y chwech uchaf am yr ail dymor yn olynol gyda buddugoliaeth.

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖❌❌❌➖
Caernarfon: ✅✅✅❌❌

Bydd uchafbwyntiau o’r gêm i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:30.