Rhagolwg penwythnos Cymru Premier JD

A34I1078e

Un pwynt sy’n gwahanu’r ddau uchaf – dau bwynt sy’n gwahanu’r tri isaf – ac mae dau glwb yn hafal ar bwyntiau yn y ras am y gemau ail gyfle… mae’n hynod o dynn ar draws y tabl yn Uwch Gynghrair Cymru.

Nos Wener, 14 Chwefror

Aberystwyth v Airbus UK | Nos Wener – 19:45
Bydd Airbus yn gobeithio dringo oddi ar waelod y tabl nos Wener wrth fentro i Goedlan y Parc, sef yr unig le iddyn nhw ennill oddi cartref y tymor hwn.

Mae tîm Steve O’Shaughnessy ar rediad o 13 gêm heb ennill ac angen troi’r gornel yn sydyn os am osgoi syrthio’n syth yn ôl i Gynghrair Gogledd Cymru.

Yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau fe enillodd Aberystwyth 1-5 yn Stadiwm Grŵp Hollingsworth – eu buddugoliaeth fwyaf oddi cartref ers Medi 2016 (Cfin 0-5 Aber).

Gemau diwethaf:
Airbus UK 1-5 Aberystwyth (02/11/19)
Aberystwyth 1-2 Airbus UK (07/09/19)

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖❌✅✅❌
Airbus UK: ❌❌➖➖❌

Cei Connah v Caernarfon | Nos Wener – 19:45
Bydd y Nomadiaid yn awyddus i gadw’r pwysau ar y Seintiau Newydd sydd ond un pwynt uwch eu pennau yn y ras am y bencampwriaeth.

Mae Caernarfon ar rediad siomedig ar ôl sicrhau dim ond un pwynt allan o’r 18 posib yn eu chwe gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 5).

Mae Cei Connah wedi sgorio 10 gôl yn eu dwy gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (Cei 4-2 Cfon / Cei 6-2 Cfon).

Gemau diwethaf:
Cei Connah 4-2 Caernarfon (15/10/19)
Caernarfon 0-0 Cei Connah (23/08/19)

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅❌✅
Caernarfon: ❌➖❌❌❌

Y Bala v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 20:00 (S4C)
Ym mis Awst fe lwyddodd Y Bala i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y gynghrair a byddai buddugoliaeth arall i’r Bala nos Wener yn eu gadael ond driphwynt y tu ôl i’r pencampwyr.

Mi fydd hi’n frwydr hefyd rhwng dau o brif sgorwyr y gynghrair gyda Chris Venables (20) a Greg Draper (18) â’u llygaid ar yr Esgid Aur y tymor hwn.

Mae’r Seintiau wedi colli pum gêm gynghrair mewn tymor am y tro cyntaf ers 2007/08.

Gemau diwethaf:
Y Seintiau Newydd 1-0 Y Bala (25/10/19)
Y Bala 3-1 Y Seintiau Newydd (23/08/19)

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅✅❌❌✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

Dydd Sadwrn, 15 Chwefror

Caerfyrddin v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Caerfyrddin wedi codi o’r ddau isaf, ond mae nhw’n dal i fod yn hafal ar bwyntiau gyda Phen-y-bont sydd yn 11eg yn tabl.

Bydd Met Caerdydd yn gobeithio dal eu gafael ar y 7fed safle ar ôl ennill eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Mae gan Gaerfyrddin record dda yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn ar ôl ennill un a chael un gêm gyfartal yn erbyn y myfyrwyr yn rhan gynta’r tymor.

Gemau diwethaf:
Met Caerdydd 0-3 Caerfyrddin (16/11/19)
Caerfyrddin 2-2 Met Caerdydd (07/09/19)

Record cynghrair diweddar:
Caerfyrddin: ✅➖➖❌✅
Met Caerdydd: ➖❌✅✅✅

Derwyddon Cefn v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl gwylio’i dîm yn curo Airbus nos Wener diwethaf bydd Stuart Gelling yn cymeryd yr awennau am y tro cyntaf fel rheolwr newydd Derwyddon Cefn y penwythnos hwn.

Dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, a daeth y fuddugoliaeth honno ar Y Graig yn erbyn y Derwyddon ym mis Ionawr.

Roedd ‘na ddigon o gyffro yn y ddwy gêm rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor – y tîm oddi cartref yn ennill 2-3 yn y ddwy gêm gyda’r tîm cartre’n gorffen y gemau hynny gyda 10 dyn.

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 2-3 Pen-y-bont (11/01/20)
Pen-y-bont 2-3 Derwyddon Cefn (27/10/19)

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌✅✅
Pen-y-bont: ➖➖✅❌❌

Y Drenewydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y clybiau’n cwrdd am y pedwerydd tro’r tymor hwn wedi i’r Drenewydd yrru’r Barri allan o Gwpan Cymru yn y drydedd rownd nôl ym mis Rhagfyr.

Dechreuodd Y Drenewydd ail ran y tymor yn gryf gyda buddugoliaeth annisgwyliedig oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd tra roedd Y Barri’n teimlo’n rhwystredig ar ôl colli yn erbyn Cei Connah wedi i Kayne McLaggon gael ei hel o’r maes i dîm Gavin Chesterfield.

Efallai bod cyrraedd y ddau uchaf allan o afael y clybiau hyn bellach, ond mae’n bosib iawn y bydd gorffen yn 3ydd yn ddigon i sicrhau lle’n Ewrop (fel y digwyddodd i’r Barri y tymor diwethaf), felly efallai mae dyma yw’r nod i’r ddau dîm yma erbyn hyn.

Gemau diwethaf:
Y Barri 0-1 Y Drenewydd (07/12/19) Cwpan Cymru
Y Barri 0-1 Y Drenewydd (30/11/19)
Y Drenewydd 2-3 Y Barri (05/10/19)

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖✅❌➖✅
Y Barri: ➖✅❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:30 ar S4C.