Rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG: Cei Connah v STM Sports

NEW rownd derfynol cwpan nathaniel
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 30 Ion 2020, 15:51

Bydd STM Sports o’r Cymru South yn herio Cei Connah, un o fawrion yr uwch gynghrair ar Barc Latham ddydd Sadwrn yn rownd derfynol cynta’r tymor.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones a gweddill y criw ar gyfer rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ddydd Sadwrn am 17:00, gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Bydd STM Sports o’r Cymru South yn herio Cei Connah am y tro cyntaf yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG – gyda’r enillydd yn sicrhau lle yng Nghwpan Her Yr Alban y tymor nesaf.

Ar ôl ennill dyrchafiad i’r Cymru South (cynghrair de Cymru) llynedd, mae llwyddiant STM wedi parhau’r tymor hwn gyda’r clwb yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y gynghrair.

Dyma’r tro cyntaf ers eu sefydliad yn 2007 i STM gystadlu yn y gwpan, gyda’r clwb yn cyrraedd y rownd derfynol ar y cynnig cyntaf.

Mae STM eisoes wedi ennill ar Barc Latham y tymor yma gan guro’r Drenewydd ar giciau o’r smotyn yn rownd yr wyth olaf cyn curo clwb arall o’r Cymru Premier, Aberystwyth, yn y rownd gynderfynol.

Josh Graham – arwr STM yn erbyn Aberystwyth – yw cydradd prif sgoriwr Cwpan Nathaniel MG y tymor hwn gyda 5 gôl (yn gyfartal â Louis Robles o’r Bala).

Dyw Cei Connah a STM erioed wedi cyfarfod o’r blaen, ond mi fydd rhaid i STM fod ar eu gorau i ennill nos Sadwrn – y tîm diwethaf o’r cynghreiriau is i guro Cei Connah oedd Dinbych yn Rownd Gynderfynol Cwpan Nathaniel MG 15/16!

Llwyddodd Cei Connah i ennill cwpan y gynghrair nôl yn 1996 – ond dyw’r Nomadiaid ddim wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ers ei ennill.

Yn rhyfeddol, fe gyrhaeddodd y Nomadiaid rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG pedair gwaith yn olynol rhwng 2015/16 – 2018/19 a cholli pob un o’r gemau yma 1-0! (vs Dinbych, YSN, YSN eto a Met Caerdydd).

Mae Cei Connah wedi bod yn wych y tymor hwn gyda bechgyn Andy Morrison yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru ac ond wedi colli dwy gêm gynghrair (v YSN a Cefn) – nifer lleiaf yn y gynghrair.

Cei Connah sydd hefyd wedi ildio’r nifer lleiaf o goliau’r tymor hwn (17). Y golwr Lewis Brass yn cael tymor llwyddiannus, wedi cadw 7 llechen lân yn UGC. Dim ond Alex Ramsay a Dave Jones (8) sydd wedi cadw mwy yn y gynghrair.

Llwyddodd Cei Connah i guro Lido Afan o’r Cymru South 8-0 yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yng Nghwpan Cymru penwythnos diwethaf, felly bydd STM yn digwyl dipyn o her nos Sadwrn.

Rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymu Nathaniel MG rhwng Cei Connah a STM Sports, dydd Sadwrn am 17:00 gyda’r gic gyntaf am 17:15 ar S4C.