Y Drenewydd yn sicrhau eu lle yn y chwech uchaf

newtown 1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 19 Ion 2020, 10:43

Gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Airbus UK yn sicrhau fod tîm Chris Hughes yn cystadlu yn yr hanner uchaf ar ôl yr hollt. Bydd Y Drenewydd yn ymuno â’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala, Y Barri a Caernarfon yn y chwech uchaf o’r Cymru Premier.

Roedd pwynt yn ddigon i dîm Chris Hughes selio eu lle yn y chwech uchaf, er roedd cystadleuaeth am y chweched safle gan Met Caerdydd a Derwyddon Cefn ar ddechrau’r dydd.

Gyda’r gemau i gyd yn dechrau am 17:15, roedd Y Drenewydd yn gwybod fod pwynt yn ddigon i sicrhau lle yn hanner uchaf y tabl wedi’r hollt.

Llwyddodd Met Caerdydd i guro Caernarfon 2-0 a Derwyddon Cefn yn curo’r Bala ar Faes Tegid diolch i ddwy gôl gan Jamie Reed – ac er i Airbus UK ymosod yn dda yn yr ail hanner, dal ar am bwynt wnaeth Y Drenewydd i ennill eu lle yn y chwech uchaf.

Bydd rhestr gemau ail hanner y tymor yn cael ei cyhoeddi ar ddydd Llun 20 Ionawr, gyda Sgorio hefyd yn cyhoeddi rhestr gemau byw nesaf ar ddydd Llun.