Y Fflint v Prestatyn yw dewis byw Sgorio ar gyfer rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru JD

thumbnail_Outlook-ilw314g3
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 3 Chw 2020, 12:07

Y gêm rhwng Y Fflint a Phrestatyn sydd wedi ei ddewis fel gêm byw Sgorio ar gyfer rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru JD.

Bydd y clwb sy’n arwain Cynghrair Gogledd Cymru JD yn ymweld â’r clwb sydd yn ail yn y gynghrair, a dyma’r tro gyntaf i gêm rhwng dau dîm o ail adran Cymru gael ei dangos yn fyw ar S4C. gan Sgorio.

Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu’n fyw o Gae-y-Castell am 7.55 ar nos Wener 28 Chwefror, gyda’r gic gyntaf am 8.00. Bydd y gêm hefyd i’w weld yn fyw ar S4C a thudalen Facebook Sgorio.

Prestatyn oedd yr enillwyr y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd â’i gilydd, gan ennill 3-2 oddi cartref ym mis Hydref. Bydd y gêm gynghrair nesaf rhwng y ddau dîm yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 22 Chwefror, ychydig llai nag wythnos cyn i’r ddau dîm gystadlu am le yn rownd gyn-derfynol y gwpan.

Mae’r ddau dîm wedi ennill y gwpan unwaith yn eu hanes.

Fe enillodd y Fflint y gwpan yn ôl yn y tymor 1953/54 gyda buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Caer o flaen torf o bron i 16,000 yng Nghae Ras, Wrecsam. Fe enillodd Prestatyn yn fwy diweddar, yn y tymor 2012/13, gyda buddugoliaeth gofiadwy o dair gôl i un yn erbyn Bangor dan arweiniad y rheolwr presennol, Neil Gibson, hefyd yn y Cae Ras.

Sgorio: Y Fflint v Prestatyn
Nos Wener 28 Chwefror, 7.55
Sylwebaeth Saesneg
Ar gael ar S4C Clic, Facebook Live, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C