Sgorio, dydd Llun am 5:35

IMG_0020
Sion Richards

Sion Richards

Monday, 16 Oct 2017, 10:35

Ymunwch â Morgan Jones am drosolwg o holl ddigwyddiadau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru JD. Mae dau o geffylau blaen y cynghrair yn cwrdd ar lannau’r Fenai wrth i Fangor herio Met Caerdydd tra bo Cei Connah yn teithio i Gaerfyrddin, a Llandudno yn croesawu Aberystwyth i gysgod y Gogarth. Sgorio am 5:35 ar S4C.

Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru
Y Seintiau Newydd 6–1 Prestatyn
Llandudno 2–3 Aberystwyth
Bangor 2–3 Met Caerdydd
Caerfyrddin 1–2 Cei Connah
Y Barri 1–3 Derwyddon Cefn
Y Drenewydd 1–3 Y Bala