5-on-form

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Joel Thompson (Derwyddon Cefn)
Doedd hi ddim yn berfformiad perffaith gan Thompson yn ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ond fe wnaeth ei waith yn daclus i sicrhau pwynt i’r Derwyddon ar y Graig yn erbyn Cofis Caernarfon gan wneud nifer o arbediadau pwysig.

Clayton Green (Y Barri)
Sgoriodd Clayton Green unig gôl y gêm ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn wrth i’r Barri gipio eu trydedd buddugoliaeth yn olynol. Hon oedd gôl gyntaf Green yn UG Cymru ac fe gymrodd ei gyfle’n wych gan droi’n glyfar a phlannu ergyd nerthol heibio i’r golwr.

James Owen (Cei Connah)
Mae Cei Connah wedi dringo i frig tabl UG Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Caerfyrddin dros y penwythnos. Fe gymerodd ei gyfle yn hyfryd yn codi’r bêl yn gelfydd dros ben y gôl-geidwad i roi’r Nomadiaid ar y blaen yng Nglannau Dyfrdwy.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Roedd hi’n ganlyniad rhagorol i’r myfyrwyr brynhawn Sul wrth iddyn nhw guro’r Seintiau am y tro cyntaf, ac hynny mewn steil (4-1). Er na sgoriodd Evans, roedd yn allweddol yn y chwalfa wrth greu pob un o’r bedair gôl i’w gyd-chwaraewyr!

Neil Mitchell (Y Drenewydd)
Mae Neil Mitchell yn cadw ei le yn nhîm y penwythnos ar ôl sgorio gôl arbennig arall y penwythnos hwn. Dangosodd ei allu acrobataidd i rwydo yn erbyn Llanelli ac i godi’r Drenewydd i’r 5ed safle yn UG Cymru.