Albania 1-0 Cymru

Football – International Friendly – Albania v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Tuesday, 20 Nov 2018, 22:02

Cymru yn colli 1-0 oddi cartref i Albania mewn gêm gyfeillgar lle llwyddodd Chris Gunter i dorri record am y nifer fwyaf o gapiau i Gymru.

Noson Chris Gunter oedd hi, yr amddiffynnwr yn arwain y tîm allan gan dorri record am y nifer o gapiau i Gymru gan ennill cap rhif 93.

Er y dathliadau cyn y gêm, siomi roedd hanes y tîm gyda Bekin Balaj yn rhwydo unig gôl y gêm o’r smotyn i Albania ar ôl i Harry Wilson ildio cic o’r smotyn wedi trosedd ar Taulant Xhaka yn y cwrt cosbi.

Cafodd pedwar chwaraewr eu cap cyntaf allan yn Albania, amddiffynnwr Anderlecht James Lawrence a chwaraewr canol cae Abertawe, Daniel James yn dechrau’r gêm, gyda Rabbi Matondo o Man City a Kieron Freeman o glwb Sheffield United, yn dod ymlaen gyda 12 munud yn weddill o’r gêm.