Crasfa i Gymru yn Stadiwm Genedlaethol Cymru wrth i dîm Luis Enrique ennill 1-4.

Football – International Friendly – Wales v Spain
Sion Richards

Sion Richards

Thursday, 11 Oct 2018, 20:41

Er i Sam Vokes rwydo gôl gysur i Gymru, llwyddodd Sbaen i ennill o 1-4 wrth i Alcacer (x2), Ramos a Barta sgorio i’r ymwelwyr mewn gêm gyfeillgar.

Roedd y gêm gyfeillgar yn gyfle i Ryan Giggs brofi ei garfan yn erbyn un o fawrion pêl-droed rhyngwladol, ond i’r tîm siomi o flaen torf o 50,000.

Bydd Cymru yn teithio i Stadiwm Aviva, Dulyn ar gyfer eu trydydd gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth nesaf, gyda’r gêm yn fyw ar S4C.