Cyhoeddi Gemau Rhagbrofol Ewro 2020

Football – UEFA Euro 2020 Draw Dublin
Sion Richards

Sion Richards

Saturday, 1 Dec 2018, 08:15

Bydd Ryan Giggs a’i dîm yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020 heddiw, gyda chadarnhad o’r gemau a’r grwpiau yn dod am 11 o seremoni cyhoeddi UEFA yn Nulyn. Bydd Nicky John yn casglu’r ymateb o’r seremoni, gyda chyfweliadau i’w gweld yma ar wefan Sgorio ac ar ein llwyfannau cymdeithasol.

Mae Cymru wedi eu cadarnhau ym mhot 2 ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020, gyda’r seremoni cyhoeddi yn Nulyn ar ddydd Sul Rhagfyr 2.

Isod gweler rhestr o’r timau all Cymru wynebu:

Pot Cynghrair y Cenhedloedd:
Swistir, Portiwgal (deiliaid), Yr Iseldiroedd, Lloegr
Pot 1
Gwlad Belg, Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal, Croatia, Gwlad Pwyl.
Pot 2
Yr Almaen, Gwlad yr Ia, Bosnia and Herzegovina, Wcrain, Denmarc, Sweden, Rwsia, Awstria, Cymru, Gweriniaeth Tsiec
Pot 3
Slovakia, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Norwy, Serbia, Ffindir, Bwlgaria, Israel.
Pot 4
Hwngari, Rwmania, Groeg, Albania, Montenegro, Cyprus, Estonia, Slofenia, Lithuania, Georgia*
Pot 5
Macedonia, Kosovo, Belarws, Luxembourg, Armenia, Azerbaijan, Kazakhstan, Moldofa, Gibraltar, Ynysoedd Faroe
Pot 6
Latfia, Liechtenstein, Andorra, Malta, San Marino

Sut mae’r seremoni cyhoeddi yn gweithio?
Mae’r timau sydd yn cystadlu ym mhot Cynghrair y Cenhedloedd yn cael eu dethol yn gyntaf yn grŵp A i D – yr hyn er mwyn sicrhau dyddiadau rhydd ym mis Mehefin 2019 i gystadlu yn rownd derfynol Cynghrair y Cenhedloedd.

Bydd timau pot 1 yn cael eu dethol i grŵp E i J.

Bydd y timau sy’n grwp 2 yn cael eu dethol i’r ail safle fesul grwp, gyda’r broses yn cael ei ail adrodd ar gyfer gweddill y potiau.

Dyddiadau’r gemau
Gêm 1: 21–23/03/2019
Gêm 2: 24–26/03/2019
Gêm 3: 07–08/06/2019
Gêm 4: 10–11/06/2019
Gêm 5: 05–07/09/2019
Gêm 6: 08–10/09/2019
Gêm 7: 10–12/10/2019
Gêm 8: 13–15/10/2019
Gêm 9: 14–16/11/2019
Gêm 10: 17–19/11/2019:
Gemau ail gyfle Ewro 2020: 26–31/03/2020: