Denmarc yn curo Cymru 1-2.

P181116-273-Wales_Denmark
Sion Richards

Sion Richards

Friday, 16 Nov 2018, 22:06

Mae Denmarc yn esgyn i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl curo Cymru 1-2 a sicrhau eu lle ar frig Cynghrair B Grŵp 4.
Golygai’r canlyniad fod Cymru yn aros yn Cynghrair B.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy Nicolai Jorgensen yn yr hanner cyntaf.

llwyddodd golwr Denmarc, Schmeichel, i gadw’r ymwelwyr ar y blaen drwy arbed cic rydd Bale.

Aeth Denmarc ymhellach ar y blaen ar ôl 88 munud wrth i Martin Braithwaite sgorio.

Sgoriodd Bale funud yn ddiweddarach, gyda’r gem yn gorffen 1-2 i’r ymwelwyr.