Y Seintiau yn colli yn erbyn Midtjylland

tns score
Sion Richards

Sion Richards

Thursday, 9 Aug 2018, 20:45

Y Seintiau Newydd yn colli o 0-2 yn erbyn Midtjylland yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa wrth i Paul Onuachu sgorio’r ddwy gôl i bencampwyr Denmarc.

Siom i bencampwyr Uwch gynghrair Cymru yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa wrth i bencampwyr Denmarc Midtjylland ennill 0-2 yn cymal cyntaf y rownd.

Sgoriodd Paul Onuachu ddwywaith i Midtjylland, gyda’r Seintiau yn wynebu her fawr oddi cartref yn yr ail gymal wythnos nesaf.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal nos Iau, 16 Awst yn Arena Herning, Herning.