5-y-penwythnos

5 y pen 16×9
Sion Richards

Sion Richards

Monday, 2 Dec 2019, 21:03

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier yn yr wythnos ddiwethaf.

Rhys Wilson – Pen-y-bont
Wilson yn cadw ei lechen lân gyntaf o’r tymor.

Llwyddodd Pen-y-bont i gadw’r gêm yn ddi sgôr yn erbyn Cei Connah sydd ar frig y Cymru Premier.

James Davies – Derwyddon Cefn
Chweched gôl o’r tymor i James Davies wrth i rediad cryf Derwyddon Cefn barhau.

Mae’r pumed fuddugoliaeth yn eu chwe gêm ddiwethaf yn gweld tîm Huw Griffiths yn y chwech uchaf.

Mae goliau James Davies wedi bod yn allweddol i’r rhediad a llwyddodd i sgorio a chreu yn y fuddugoliaeth dros Aberystwyth ar Goedlan y Parc.

Henry Jones – Y Bala
Henry Jones yn rhan o’r goliau i gyd ar Barc Waun Dew dydd Sadwrn wrth i’r Bala guro Caerfyrddin 0-3.

Sgoriodd ddwy a chreu’r cyfle i Louis Robles.

Adrian Cieslewicz – Y Seintiau Newydd
Pedair gôl i’r ymosodwr yn y grasfa dros Airbus dydd Sadwrn.

Greg Draper – Y Seintiau Newydd
Hat-trick mewn 23 munud ar ôl dod ymlaen fel eilydd + gôl efo’i gyffyrddiad cyntaf!

Buddugoliaeth Y Seintiau Newydd o 0-12 yn Airbus yw buddugoliaeth oddi-cartref fwyaf yn hanes y gynghrair ac yn lefel a record am y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes y gynghrair – Barri 12-0 Cemaes nôl yn 04/04/1998