Bydd y gêm rhwng Aberystwyth a Chei Connah yn fyw ar ein tudalen Facebook nos Wener (04/01/19) am 19:45.
Gyda thîm Neville Powell yn brwydro am le yn y Chwech Uchaf a bechgyn Andy Morrison yn ceisio dal eu gafael ar eu safle ar frig Uwch Gynghrair Cymru, mae’n argoeli i fod yn chwip o gêm ar Goedlan y Parc nos Wener!