Cyhoeddi gemau pedwaredd rownd Cwpan Her Yr Alban

Sion Richards

Sion Richards

Tuesday, 10 Sep 2019, 13:00

Cei Connah i deithio i Partick Thistle a Wrecsam i groesawu St Mirren Colts i’r Cae Ras ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Her Yr Alban.

Llwyddodd y Nomadiaid i drechu Cove Rangers 1-0 yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth diolch i gic rydd Michael Bakare.

Bydd hogiau Andy Morrison yn teithio i Stadiwm Firhill, Glasgow ym mhedwaredd rownd Cwpan Her Yr Alban i wynebu Partick Thistle ar ôl curo Cove Rangers 1-0 yn y drydedd rownd.

Llwyddodd y Nomadiaid i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth llynedd – y tîm cyntaf o du allan i’r Alban i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Bydd Wrecsam yn croesawu St Mirren Colts i’r Cae Ras ar ôl curo Ayr United 6-5 ar giciau o’r smotyn yn y rownd ddiwethaf. Mae’r cochion yn cystadlu yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes ac yn cynrychioli cynghrair genedlaethol Lloegr.

Bydd pedwaredd rownd Cwpan Her Yr Alban yn cael ei chwarae dros benwythnos 12-13 Hydref.