Croatia v Cymru

cymru v croatia a hwngari graffeg
Sion Richards

Sion Richards

Tuesday, 4 Jun 2019, 11:37

Gêm ragbrofol UEFA Euro 2020 yn fyw, yng nghwmni’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn fyw prynhawn Sadwrn am 13:30 ar S4C.

Bydd her enfawr i Ryan Giggs a’i dîm yn Osijek wrth wynebu Croatia, gwlad a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd lai na blwyddyn yn ôl. Yn dilyn dechrau cadarnhaol i’r ymgyrch yn erbyn Slofacia’n ôl ym mis Mawrth, byddai buddugoliaeth arall yn ddechrau perffaith i Gymru.

Newyddion diweddaraf:
Ben Davies ar gael i chwarae’n erbyn Croatia a Hwngari – cyn cael llawdriniaeth i drin hernia.

Ryan Giggs yn cadarnhau fod Daniel James ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Croatia ar ôl cael prawf meddygol efo Manchester United.

Ethan Ampadu hefyd ar gael ar ôl gwella o anaf.

Carfan Cymru
Golwyr:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Barnsley);

Amddiffynwyr:
Ashley Williams (Stoke City ar fenthyg o Everton), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Mepham (Bournemouth), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Ben Williams (Barnsley), Ethan Ampadu (Chelsea), Joe Rodon (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht), Ben Davies (Tottenham);

Canol Cae:
Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton Athletic), Will Vaulks (Rotherham United), David Brooks (Bournemouth), Matt Smith (Manchester City), Dylan Levitt (Manchester United), Daniel James (Abertawe);

Blaenwyr:
Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Derby County ar fenthyg o Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County), Rabbi Matondo (Schalke 04), George Thomas (Scunthorpe United ar fenthyg o Leicester City), Sam Vokes (Stoke), Kiefer Moore (Barnsley).

Croatia v Cymru – yn fyw ar S4C prynhawn Sadwrn am 13:30, ymunwch â Dylan Ebenezer a’r tîm, gyda sylwebaeth gan Nic Parry a Malcolm Allen.