Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020

Sion Richards

Sion Richards

Wednesday, 29 May 2019, 08:39

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs wedi cyhoeddi carfan o 28 ar gyfer y gemau rhagbrofol yng Nghroatia (08/06) a Hwngari (11/06).

Dyw’r amddiffynnwr Ben Davies ddim wedi ei gynnwys oherwydd problem gyda’i hernia. Mae disgwyl iddo dderbyn llawdriniaeth yn dilyn gêm ei glwb Tottenham yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.

Un arall sy’n absennol yw Aaron Ramsey ond mae Ethan Ampadu yn ôl er iddo golli’r camp ymarfer ym Mhortiwgal wythnos diwethaf.

Mae Giggs wedi cynnwys Jonathan Williams am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi’n reolwr, yn dilyn perfformiadau’r chwaraewr canol cae gyda Charlton yn ddiweddar.

Ac mae pedwar chwaraewr yn y brif garfan am y tro cyntaf ar gyfer gemau cystadleuol.

Cafodd Joe Rodon, Ben Williams, Dylan Levitt a Kieffer Moore eu dewis yn wreiddiol i ymuno â charfan ymarfer ym Mhortiwgal wythnos diwethaf.

Mae Dan James yn ôl yn y garfan ar ôl methu’r daith i Bortiwgal yn dilyn marwolaeth ei dad.

Y garfan yn llawn:

Golwyr:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Barnsley);

Amddiffynwyr:

Ashley Williams (Stoke City ar fenthyg o Everton), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Mepham (Bournemouth), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Ben Williams (Barnsley), Ethan Ampadu (Chelsea), Joe Rodon (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht);

Canol Cae:

Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton Athletic), Will Vaulks (Rotherham United), David Brooks (Bournemouth), Matt Smith (Manchester City), Dylan Levitt (Manchester United), Daniel James (Abertawe);

Blaenwyr:

Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Derby County ar fenthyg o Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County), Rabbi Matondo (Schalke 04), George Thomas (Scunthorpe United ar fenthyg o Leicester City), Sam Vokes (Stoke), Kiefer Moore (Barnsley).