Cymru i gystadlu yng ngrŵp A Ewro 2020

Football – UEFA Euro 2020 Qualifying Group E – Wales v Hungary
Sion Richards

Sion Richards

Saturday, 30 Nov 2019, 20:13

Bydd Cymru yn wynebu’r Eidal, Swistir a Twrci ym mhencampwriaeth Ewro 2020 yr haf nesaf, gyda’r gemau i’w chwarae yn Baku ac yn Rhufain.

Cymru i wynebu’r Swistir yn eu gem agoriadol yn Ewro 2020 yn Baku ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, bydd ail gêm tîm Ryan Giggs yn y grŵp hefyd yn Baku gan wynebu Twrci ar ddydd Mercher 17 Mehefin.

Bydd rhaid i’r garfan hedfan i Rufain am her yn erbyn Yr Eidal yn eu gem olaf o’r grŵp ar nos Sul 21 Mehefin.

Bydd Pencampwriaeth ryngwladol Ewrop 2020 yn dechrau ar ddydd Gwener 12 Mehefin yn Rhufain gyda 24 tîm yn cystadlu i godi’ tlws Ewro 2020 yn Stadiwm Wembley, gyda’r rownd derfynol ar ddydd Sul 12 Gorffennaf.

Yn wahanol i pencampwriaethau Ewro y gorffennol, mae’r gemau wedi eu gwasgaru ar draws 12 o ddinasoedd y cyfandir – felly dipyn o deithio i selogion y wal goch!