Cynghrair y Pencampwyr: Y Seintiau Newydd

Football – Wales Women’s team with Champions League Trophies
Sion Richards

Sion Richards

Tuesday, 18 Jun 2019, 13:12

Y Seintiau Newydd i wynebu enillwyr rownd gynragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth.

Bydd enillwyr y rownd gynragbrofol yn cwrdd â phencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, sef un o’r timau canlynol: Lincoln Red Imps, Ferikoneli, SP Tre Penne a Santa Coloma.

Yn y rownd gynragbrofol bydd Feronikeli (Kosovo) yn wynebu Lincoln Red Imps (Gibraltar) a Tre Penne (San Marino) yn cwrdd â Santa Coloma (Andorra) ar 25 Mehefin.

Bydd enillwyr y gemau yn cwrdd yn rownd derfynol y gemau gynragbrofol ar 28 Mehefin, gyda’r enillydd yn wynebu’r Seintiau Newydd yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr ym mis Gorffennaf.