Met Caerdydd v Progrès Niederkorn – yn fyw ar dudalen Facebook Sgorio

Sion Richards

Sion Richards

Monday, 1 Jul 2019, 15:19

Ail gymal rownd gynragbrofol Cynghrair Europa rhwng Met Caerdydd a Progres Niederkorn i’w gwylio yn fyw ar-lein ar dudalen Facebook Sgorio nos Iau, 04/07.

Mae’r gic gyntaf am 18:30, gyda’r ffrwd yn cychwyn pum munud ynghynt.

Wedi colli 1-0 oddi cartref yn Luxembourg wythnos diwethaf, mi fydd y tîm o fyfyrwyr y brifysgol yn gobeithio troi’r ornest ar ei phen yn Stadiwn Rhyngwladol Chwaraeon Caerdydd, i ennill eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Fe fydd yr enillwyr yn wynebu Cork City o Weriniaeth Iwerddon yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa.