Gôl gyntaf Kieffer Moore i Gymru yn sicrhau pwynt i dîm Ryan Giggs yn Trnava. Bydd Cymru yn wynebu Croatia yn fyw ar S4C nos Sul wrth i’r ymgyrch i gyrraedd Ewro 2020 barhau.
Sgoriodd blaenwr Wigan, Kieffer Moore ei gôl gyntaf dros Gymru yn y gêm gyfartal 1-1 sy’n golygu fod ymgyrch Cymru i gyrraedd Ewro 2020 yn parhau.
Er fod y canlyniad yn golygu bod Cymru’n aros yn y bedwerydd safle yng ngrŵp E, mae gan Cymru gêm wrth gefn all fod yn allweddol os yw tîm Ryan Giggs am gamu ymlaen i bencampwriaeth Ewro 2020.
Er i Gymru fynd ar y blaen ar yr egwyl drwy Moore, llwyddodd Slofacia i unioni’r sgôr yn fuan wedi’r egwyl. Connor Roberts yn penio i lwybr Kucka a lwyddodd i yrru ei foli heibio Wayne Hennessey.
Bydd Cymru yn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul yn gwybod bydd angen canlyniad i gadw’r gobaith o gyrraedd Ewro 2020 yn fyw.