Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr

Sion Richards

Sion Richards

Thursday, 1 Aug 2019, 10:00

Mae’r Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr er gwaethaf perfformiad llawn egni yn erbyn FC Copenhagen yn Nenmarc.

Roedd Pencampwyr UG Cymru ar ei hôl hi o 2-0 ar ôl y cymal cyntaf diolch i goliau gan Pieros Sotiriou a Robert Skov.

Ergyd wych Zeca yn yr ail hanner wnaeth selio’r fuddugoliaeth a Copenhagen yn ennill 3-0 dros y ddau gymal.

Mi fydd Copenhagen nawr yn wynebu Red Star Belgrade yn y rownd nesaf, tra bo’r Seintiau Newydd yn ailddechrau eu hymgyrch Ewropeaidd yng Nghynghrair Europa, gan wynebu Valur Reykjavík o Wlad yr Iâ neu Ludogorets Razgrad o Fwlgaria – gyda’r ddau yn chwarae ei gilydd ddydd Iau nesaf.