Gwrthwynebwyr timau Cymru yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa

Taith i Ynysoedd y Ffaroe sy’n wynebu’r Seintiau Newydd, a’r Bala a Chei Connah i chwarae gartref yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa UEFA fis nesaf.

Daeth yr enwau o’r het ddydd LLun, 31 Awst.

Bydd Y Bala yn croesawu’r cewri Standard Liège i Gymru – clwb sydd wedi eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Gwlad Belg ddeg gwaith.

Mae hi’n bosib y bydd y gêm – y tro cyntaf yn hanes y clwb iddyn nhw gyrraedd y rownd yma – yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd Scott Ruscoe a’i dîm yn dychwelyd i Tórshavn, pum mlynedd ar ôl eu trechu 6-2 yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd y Nomadiaid yn herio Dinamo Tbilisi, pencampwyr Georgia eleni ac mae lleoliad y gêm honno hefyd i’w chadarnhau.

Bydd y gemau un cymal yn cael eu cynnal nos Iau 17 Medi.