2 Awst

Ar y diwrnod yma yn 2009 symudodd Espanyol i’w cartref newydd – yr Estadio Cornellà-El Prat.

Bu rhaid i’r Periquitos werthu eu hen gartref, yr Estadi de Sarrià, ym 1997 oherwydd problemau ariannol a byth ers hynny bu’r clwb yn llogi stadiwm yr Estadi Olímpic de Montjuïc gan Gyngor y Ddinas.

Roedd y Montjuïc yn amhoblogaidd ymysg yr Espanyolista am amryw o resymau.

Roedd nifer yn cwyno fod y stadiwm, adeiladwyd yn wreiddiol ym 1927, yn rhy oer yn ystod y gaeaf, roedd eraill yn cwyno fod y cysylltiadau trafnidiaeth yn sâl, ond yn fwy na dim byd arall, ‘doedd cefnogwyr Espanyol methu’n glir ag ystyried y stadiwm fel eu cartref eu hunain.

Efallai ei bod yn dweud cyfrolau am glwb Espanyol bod y gêm enwocaf chwaraewyd yn yr hen Estadi de Sarrià wedi dod, nid o’r 75 mlynedd y chwaraeodd y clwb ei gemau yno, ond o gêm chwaraewyd yn y stadiwm yn ystod Cwpan y Byd 1982.

Llwyddodd Paolo Rossi i fachu hat-trick wrth i’r Eidal drechu Brasil 3-2 er mwyn gyrru Zico, Sócrates, Falcão a’u cyfeillion adref yn waglaw – gêm sy’n cael ei hadnabod hyd heddiw ym Mrasil fel Trychineb Sarrià.

Mae’n deg dweud, hefyd, fod y Montjuïc yn fwy enwog am gampau Linford Christie a Sally Gunnell yn ystod Gemau Olympaidd 1992 nag am unrhyw ganlyniad gan glwb pêl-droed Espanyol.

Ond gyda’r stadiwm odidog newydd wedi ei hagor ar gyrion y maes awyr yn Barcelona, bydd Espanyol yn gobeithio creu ychydig o hanes eu hunain a cheisio camu allan o gysgod tîm arall y ddinas sy’n chwarae draw yn y Camp Nou!


Bu Nicky John o dîm Sgorio yn holi cefnogwyr Espanyol ynghylch eu stadiwm newydd wrth i Real Madrid ymweld â’r Cornellà-El Prat am y tro cyntaf.