5 Awst

Ganwyd Dr Robert Herbert Mills-Roberts, golwr Preston North End a Chymru, ar y diwrnod hwn yn 1862.

Cafodd ei eni ym Mhenmachno ger Betws-y-Coed a chwaraeodd rygbi a phêl-droed tra’n astudio yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Prifysgol Aberystwyth.

Pan symudodd i Lundain i astudio llawfeddygaeth ymhellach yn 1882, chwaraeodd fel golwr i Ysbyty St Thomas’ a cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru am y tro cyntaf dair mlynedd yn ddiweddarach, yn erbyn Lloegr yn 1885.

Er ei fod yn ddim ond yn 5’8" o daldra, roedd gan Mills-Roberts enw da fel golwr digyfaddawd a chwaraeodd i Gymru’n erbyn Lloegr yn 1887 gyda’i ddwy fraich o’r arddyrnau hyd ei ben-eliniau mewn plastr.

Cyfunodd ei swydd fel llawfeddyg gyda chwarae’n y gôl i ysbyty St Thomas, tîm ysbytai Llundain a sawl tîm amatur yn cynnwys y Casuals, y Corinithians, y Crusaders a Barnes.

Cafodd wahoddiad i chwarae yng Nghwpan yr FA i Preston North End yn 1887 gan bod eu golwr arferol, Jim Trainer, yn chwaraewr proffesiynol ac felly’n anghymwys i chwarae’n y gystadleuaeth.

Hwn oedd tîm enwog anorchfygol yr ‘Invincibiles’ oedd wedi chwarae 44 gêm heb golli’n ystod y tymor, ond fe gollodd Preston 2-1 i West Brom yn y rownd derfynol, gyda Mills-Roberts yn nodi bod y tîm wedi llwyr ymlâdd ar ôl tymor hir yn y gynghrair.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1889, enillodd Mills-Roberts Gwpan yr FA gyda North End gan guro a Wolves 3-0 yn y rownd derfynol ac heb ildio gôl drwy gydol y gystadleuaeth.

Yn 1890, symudodd yn ôl i Gymru i fod yn llawfeddyg chwarel lechi Dinorwig yn ôl yn ardal ei febyd a daeth ei ymddeoliad o chwarae pêl-droed.

Er hynny, fe berswadiwyd i chwarae un gêm olaf i Gymru yn 1892 yn erbyn Lloegr, yr olaf o’i 8 cap i’w wlad.

Gweithiodd fel llawfeddyg yn chwarel Dinorwig ac ym maes meddygaeth yng Ngogledd Cymru am weddill ei oes ac roedd yn rhan o Fyddin Prydain yn ystod y Rhyfel Boer a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw mewn cartref nyrsio yn 1935, yn dilyn oes o wasanaeth ym myd iechyd a gyfra ddisglair amatur ym myd pêl-droed.