14 Chwefror

Ar y diwrnod yma ym 1958 talodd Tottenham Hotspur £35,000 i Abertawe am yr asgellwr amryddawn, Cliff Jones.

Roedd Cliff yn dod o deulu o bêl-droedwyr, llwyddodd ei dad, Ivor, oedd yn chwarae i Abertawe a West Brom, i ennill 10 cap dros Gymru tra bo’i ewythr, yr enwog Bryn Jones o Wolves ac Arsenal, wedi ennill 17 cap.

Felly roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Cliff, ac fe lwyddodd i serenu tra’n yr ysgol wrth ddod yn aelod allweddol o dîm Ysgolion Abertawe gipiodd tarian Ysgolion Lloegr ddwywaith wedi’r rhyfel.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe ym 1952 lle roedd ei gyflymder yn ddraenen yn ystlys y timau oedd yn ymweld â’r Vetch.

Er iddo cael gêm digon siomedig wrth ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstria ym 1954, llwyddodd i serenu wrth ennill ei ail gap gan rwydo’r gôl sicrhaodd fuddugoliaeth 2-1 dros Loegr ar Barc Ninian, Caerdydd.

Roedd ei gyfnod yn White Hart Lane yn cyd fynd ag oes aur Spurs wrth i’r clwb gwblhau’r dwbwl ym 1961 ac roedd yn aelod o’r tîm chwalodd Atletico Madrid 5-1 yn rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn Rotterdam ym 1963.