17 Chwefror

Ar y diwrnod yma ym 1968, roedd stadiwm y Vetch yn Abertawe wir dan ei sang wrth i’r Swans groesawu Arsenal ym 4edd Rownd Cwpan FA Lloegr.

Ymgasglodd dorf o 32,796 i wylio’r gêm – record sydd yn sefyll hyd heddiw gan y clwb – ond er gwaethaf yr awyrgylch anhygoel, ni lwyddodd y Swans i guro’u hymwelwyr o Lundain.

Daeth eu rhediad yn y gystadleuaeth i ben wedi i ymosodwr ifanc o’r enw Bobby Gould rwydo unig gôl y gêm i Arsenal … ys gwn i beth ddigwyddodd iddo ef!

Er mwyn rhoi’r record y ei gyd-destun, y torf fwyaf i ymweld â Stadiwm Liberty ers i’r Swans adael y Vetch ym mis Mai 2005 yw 19,288.

Yn wir, 20,500 yw’r uchafswm o gefnogwyr fyddai’n gallu ymweld â’r Liberty felly mae’r record o 32,796 o dorf i wylio gêm gartref y Swans yn debygol o sefyll am byth!