19 Chwefror

Ar y diwrnod yma ym 1992, chwaraeodd Kit Symons ei gêm gyntaf erioed i Gymru.

Yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn oedd y gêm, y cyntaf o 36 cap yr amddiffynnwr i Gymru. Sgoriodd Mark Pembridge unig gôl y gêm yn ei ail ymddangosiad i’r tîm cenedlaethol, dan lygad y rheolwr, Terry Yorath.

Gyda meddyliau cefnogwyr Cymru ar y grasfa gan Weriniaeth Iwerddon llai na phythefnos yn ôl, mae’n gyfle i ni hefyd gofio mai hon oedd buddugoliaeth ddiwethaf Cymru oddi cartref yn Iwerddon.

Roedd y gêm hefyd yn gap cyntaf i Alan Neilson, oedd gyda Newcastle ar y pryd ond chwaraeodd yn yr un amddiffyn â Symons i Fulham am dair mlynedd hefyd.

Dechreuodd Christopher Jeremiah Symons ei yrfa gyda Portsmouth cyn ymuno â Manchester City am £1.2 miliwn yn 1995.

Chwaraeodd ran flaenllaw yn nhaith Fulham drwy’r cynghreiriau ddiwedd y 90au cyn gorffen ei yrfa gyda Crystal Palace, gyda dros 400 o ymddangosiadau’n y gynghrair i’w enw.

Er cael ei eni yn Basingstoke, Hampshire, roedd Symons yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei dad yn hanu o Gaerdydd.

Ers ymddeol fel chwaraewr yn 2005, mae Symons wedi troi’n hyfforddwr gan gymryd yr awennau fel rheolwr Palace dros dro ddwywaith. Mae Symons bellach yn gweithio fel hyfforddwr yr Academi a sgowt i Fulham.