22 Chwefror

Ar y diwrnod yma yn 1956 cafwyd y gêm Gynghrair Bêl-droed cyntaf o dan llifoleadau wrth i Portsmouth herio Newcastle United.

Roedd llifoleadau wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd, yn wir roedd CPD Darwen a Sheffield United, wedi arbrofi gyda goleadau ar brynhawn gaeafol ers y 1870au.

Ond gwrthododd y Gynghrair Bêl-droed a’u caniatau a bu rhaid disgwyl tan y 1950au, gyda phoblogrwydd gemau cyfeillgar o dan llifoleadau, cyn i’r pwyllgorau bondigrybwyll newid eu meddyliau!

Cafwyd y gêm Gynghrair gyntaf o dan llifoleadau ar Barc Fratton, Portsmouth ond ‘doedd y prynhawn hanesyddol ddim yn fel i gyd i’r tîm cartref wrth i Newcastle ennill 2-0.