16 Ebrill

 

Ar y diwrnod yma ym 1975 llwyddodd Cymru i ddod y tîm cyntaf i drechu Hwngari yn y Népstadion yn Budapest.

Mae’r Népstadion, neu’r Puskás Ferenc Stadion fel a’i hadnabyddir heddiw, yn un o stadiymau eiconig y byd pêl-droed gan mai dyma oedd cartref y Magnificent Magyars.

Gyda chwaraewyr fel Ferenc Puskás, Sándor Kocsis a József Bozsik, llwyddodd Hwngari i fynd ar rediad anhygoel rhwng Mai 1950 a Chwefror 1956 gan ennill 46 gêm, sicrhau chwe gêm gyfartal a cholli dim ond un gêm … y gêm fwyaf yn eu hanes, sef rownd derfynol Cwpan y Byd 1954 yn erbyn Gorllewin yr Almaen.

Ym 1947 cyhoeddodd llywodraeth Gomiwnyddol Hwngari eu bod am godi stadiwm odidog newydd yng nghanol Budapest gan adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd ym Moscow yn yr Undeb Sofietaidd gyda Dinamo Stadion a’r Lenin Stadion.

Agorwyd y stadiwm ym 1953 gyda gêm rhwng Honvéd a Spartak Moscow gyda’r tîm cartref yn ennill 3-2, cyn i’r tîm cenedlaethol ddechrau ar eu teyrnasiad â gêm gyfartal efo Sweden.

Ar Ynysoedd Prydain, mae tîm Hwngari yn enwog am fod y cyntaf o gyfandir Ewrop i drechu Lloegr yn Wembley, ond mae pobl yn tueddu i anghofio’r ffaith i Hwngari chwalu’r Saeson 7-1 yn y Népstadion chwe mis yn ddiweddarach!

Ym 1955 cafwyd y dorf fwyaf erioed i’r Népstadion wrth i 104,000 heidio i wylio Hwngari yn chwalu eu cymdogion, Awstria, 6-1 yn Nhlws Canol Ewrop.

Ond o fewn 12 mis roedd y tîm ar chwâl wrth i fyddin yr Undeb Sofietaidd orymdeithio trwy Budapest er mwyn sathru’n chwyrn ar brotestiadau’r bobl yn ystod Chwyldro Hwngari.

Yn rhyfedd ddigon, roedd y rhan fwyaf o sêr y Magyar yn Sbaen gan fod Honvéd wedi bod yn chwarae yn erbyn Athletic Bilbao yng Nghwpan Ewrop a gwrthododd nifer o’r chwaraewyr, gan gynnwys Puskás, Kocsis a Zoltán Czibor ddychwelyd i’w mam-wlad gan arwyddo i dimau yn ngorllewin Ewrop.

Er gweld y calon yn cael ei rwygo o ganol cae eu tîm, parhaodd Hwngari i lwyddo ar y maes rhyngwladol gan gyrraedd rownd yr wyth olaf o Gwpan y Byd 1962 yn Chile ac ym 1966 yn Lloegr.

A phan gyrhaeddodd Mike Smith a’i dîm i herio Hwngari ym mis Ebrill 1975 roedd eu record wych yn y Népstadion yn parhau – 21 mlynedd heb golli!

Ond roedd Cymru ar dân yng Ngrŵp 2 o gemau rhagbrofol Ewro 1976, ac eisoes wedi curo’r Magyars ar Barc Ninian diolch i goloau gan Arfon Griffiths a John Toshack.

Rhwydodd Toshack funud cyn yr egwyl yn Budapest i roi taw ar gefnogwyr y tîm cartref a phan ddyblwyd y fantais â gôl gan John Mahoney wedi chwarter awr o’r ail hanner, roedd record Hwngari yn siglo.

Rhwydodd Branikovits heibio i Dai Davies, oedd yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru, i rhoi llygedyn o obaith i Hwngari ond llwyddodd yr ymwelwyr i ddal eu tir a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.