22 Ebrill

Ar y diwrnod yma ym 1959 daeth Vic Rouse y chwaraewr cyntaf o’r Bedwaredd Adran yn Lloegr i ennill cap rhyngwladol.

Gyda’r golwr profiadol, Jack Kelsey, wedi ei anafu, penderfynodd Cymru alw ar Rouse ar gyfer y gêm yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd Rouse wedi serenu i dîm Crystal Palace wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad o’r Bedwaredd Adran.

Ond ‘doedd hi ddim yn argoeli’n dda i Gymru wrth iddo ildio tair gôl yn erbyn Amwythig y Sadwrn cyn y daith i Belfast … yn ffodus i Palace fe lwyddodd eu hymosodwyr i rwydo pedair gwaith!

Ac felly y profodd – roedd gêm rhyngwladol yn llawer gwahanol i gêm yn y Bedwaredd Adran – a cholli 4-1 oedd hanes Cymru.

Dychwelodd Kelsey rhwng y pyst i Gymru ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Lloegr a dychwelodd Rouse i Barc Selhurst gyda’i unig gap.