17 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1990 dechreuodd Cymru eu hymgyrch Ewro 92 â buddugoliaeth 3-1 dros Wlad Belg.

Ar ôl gorffen ar waelod eu grŵp yn yr ymgyrch blaenorol ar gyfer Italia 90, doedd neb llawer wedi disgwyl i fois Terry Yorath lwyddo mewn grŵp oedd yn cynnwys Yr Almaen, Gwlad Belg a Lwcsembwrg.

A doedd hi ddim yn edrych yn dda i Gymru pan rwydodd Bruno Versavel i roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi 27 munud yn y Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Ond dim ond dau funud barhaodd fantais Gwlad Belg wrth i Ian Rush rwydo ei 17eg gôl rhyngwladol.

Wrth i’r gêm ddirwyn i ben roedd yn ymddangos fod y ddau dîm yn mynd i orfod bodloni ar bwynt, ond gyda dim ond saith munud yn weddill rhwydodd Dean Saunders ail gôl i Gymru i fawr foddhad y 12,000 o dorf.

A choronwyd y cyfan pan sgoriodd Mark Hughes drydedd gôl gyda tri munud yn weddill i sicrhau buddugoliaeth gystadleuol cyntaf Cymru ers dros tair blynedd.

Cymru v Gwlad Belg: Neville Southall, Kevin Ratcliffe, Eric Young, Mark Aizlewood, Clayton Blackmore, Barry Horne, Mark Hughes, Peter Nicholas, Paul Bodin, Dean Saunders, Ian Rush.