20 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1961 ganed un o arwyr y bêl gron yng Nghymru – Ian Rush.

Yn un o 10 o blant, roedd Rush yn seren amlwg ar feysydd pêl-droed yr ysgol gan sgorio goliau di-ri i dîm yr ysgol, Ysgolion Glannau Dyfrdwy ac Ysgolion Cymru.

Ar ôl gadael yr ysgol ymunodd Rush â chlwb Caer a chafodd ei gyfle yn llinell flaen y tîm cyntaf wedi i ymosodwr y clwb, Ian Edwards, ymuno â Wrecsam!

Bachodd ar y cyfle gan sgorio 14 gôl mewn 33 ymddangosiad i’r Seals a chyn pen dim roedd Lerpwl a Manchester City wedi galw heibio Ffordd Sealand i geisio ei arwyddo.

Symudodd Rush i Anfield am £300,000 ym mis Mai 1980 a chafodd ei gap cyntaf dros Gymru ychydig wythnosau’n ddiweddarach yn erbyn Yr Alban ar Barc Hampden, pan ddaeth i’r maes fel eilydd yn lle Ian Walsh.

Mae’n syfrdanol meddwl ei fod wedi ennill dau gap dros ei wlad cyn hyd yn oed gwneud yr un ymddangosiad yng nghrys coch ei glwb newydd!.

Ond daeth i’r maes fel eilydd yn Ipswich ym mis Rhagfyr 1980, gan gymryd lle Kenny Dalglish, ond methodd a chanfod cefn y rhwyd yn ei naw gêm gyntaf i’r Cochion.

Daeth ei gôl gyntaf i’r clwb ym mis Medi 1981 mewn gêm yng Nghwpan Ewrop yn erbyn Oulun Palloseura o’r Ffindir wrth i Lerpwl ennill yn gyfforddus 7-0 yn Anfield.

Llai na mis yn ddiweddarach roedd Rush wedi rhwydo ei goliau cyntaf yn y gynghrair – dwy gôl mewn buddugoliaeth 3-0 dros Leeds United – ac hefyd wedi rhwydo yn erbyn y gelynion pennaf – Everton – wrth i Lerpwl ennill y derby 3-1.

Roedd ei statws fel arwr y Kop wedi ei sefydlu!

Ym mis Mai 1982, daeth ei gôl rhyngwladol gyntaf pan rwydodd heibio i Pat Jennings wrth i Gymru drechu Gogledd Iwerddon 3-0 ar Y Cae Ras, Wrecsam.

Llwyddodd i rwydo yn y pedair gêm nesaf i Gymru hefyd yn erbyn Ffrainc, Norwy, Iwgoslafia a Lloegr gan ddod y chwaraewr cyntaf i sgorio mewn pum gêm yn olynol i Gymru. 

Aeth Rush ymlaen i ennill llond trol o dlysau, gan gynnwys ennill y Bencampwriaeth yn Lloegr ar bump achlysur, Cwpan FA Lloegr deirgwaith a Chwpan Ewrop i gyd efo Lerpwl.

Casglodd 73 cap dros Gymru rhwng 1980 a 1996 a thorrodd record Ivor Allchurch am y nifer fwyaf o goliau dros ei wlad gan rwydo 28 o weithiau.