11 Ionawr

Ar y diwrnod yma yn 2007 synnwyd y byd pêl-droed pan gyhoeddodd chwaraewr canol cae Real Madrid a Lloegr, David Beckham, ei fod wedi arwyddo cytundeb efo Los Angeles Galaxy yn yr MLS.

‘Doedd Beckham heb chwarae llawer o gemau yn ystod y tymor ar ôl adroddiadau yn y wasg ei fod wedi ffaeo efo’r rheolwr, Fabio Capello.

On, er hynny, roedd ’na ddigon o glybiau Ewropeaidd gan gynnwys AC Milan ac Internazionale am ddenu chwaraewr o’i safon.

Penderfynodd Beckham gymryd yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan llawer o’r gwybodusion fel cam i lawr mewn safon er mwyn arwyddo cytundeb 5-mlynedd werth hyd at $250 miliwn gyda’r tîm Americanaidd.

Erbyn diwedd y tymor roedd Beckham wedi brwydro yn ôl i fod yn rhan allweddol o’r tîm gipiodd La Liga am y pedwerydd tymor yn olynol.

Ac roedd camerau Sgorio yno i’w weld yn dathlu a llwyddodd Morgan Jones i siarad efo’r chwaraewr yn ystod y dathliadau.