12 Ionawr

Ar y diwrnod yma ym 1929 chwaraeodd Billy Hardy ei 55ed gêm yn olynol i Gaerdydd yng Nghwpan FA Lloegr wrth i’r clwb wynebu Aston Villa yn y drydedd rownd.

Dechreuodd y rhediad anhygoel ar 12 Hydref 1912 pan drechwyd Merthyr yn y rownd rhagbrofol gyntaf a llwyddodd i chwarae mewn dwy gêm rownd derfynol yn Wembley.

Roedd yn y tîm gollodd yn erbyn Sheffield United ym 1925 ac roedd hefyd yn aelod o’r tîm enwog drechodd Arsenal er mwyn codi’r gwpan ym 1927.

Ymunodd Hardy â Chaerdydd o Stockport County am swm anferthol o £25 wrth i’r Adar Gleision baratoi am eu tymor cyntaf yn y Southern League, a phan gafodd Caerdydd eu derbyn i Drydedd Adran (y De) o’r Gynghrair Bêl-droed ym 1920/21, ef oedd yr unig chwaraewr i ymddangos ym mhob gêm gynghrair yn y tymor cyntaf.

Chwaraeodd gyfanswm o 585 o gemau i Gaerdydd gan chwarae ei gêm olaf i’r clwb ym mis Mawrth 1932 pan yn 41 mlwydd oed.