14 Ionawr

Ar y diwrnod yma ym 1987 cafodd un o chwaraewyr amlycaf tîm merched Cymru, Jessica Fishlock, ei geni yng Nghaerdydd.

Ar ôl chwarae i glybiau Merched Caerdydd ac Academi Bryste, cafodd Fishlock ei harwyddo gan glwb AZ yn yr Iseldiroedd.

Yn 2009 bu Sgorio draw i Alkmaar i gyfarfod â Fishlock a sgwrsio am ei bywyd newydd fel chwaraewr proffesiynol.