18 Ionawr

Pep Guardiola

Ar y diwrnod yma ym 1971 ganed rheolwr un o dimau mwyaf llwyddianus y byd pêl-droed, Josep Guardiola i Sala, neu Pep i’w ffrindiau!

Ymunodd Guardiola â Barcelona yn fachgen 13 mlwydd oed a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf ym 1990 yn erbyn Cadiz.

Roedd yn aelod allweddol o El Barça del Dream Team Johan Cruyff gipiodd Cwpan Pencampwyr Ewrop am y tro cyntaf ym 1992 wrth guro Sampdoria yn Wembley.

Casglodd chwe pencampwriaeth La Liga gyda Barca- pedair yn olynol rhwng 1990/91 a 1993/94 a dwy arall ym 1997/98 a 1998/99.

Wedi dros 263 o ymddangosiadau mewn 11 mlynedd ar y Camp Nou, symudodd i Brescia yn 2001.

Roedd ei gyfnod yn Serie A gyda Brescia a Roma yn gymharol anhapus. Prin iawn fu ei ymddangosiadau ac erbyn 2003 roedd wedi symud i’r dwyrain canol er mwyn chwarae dros Al-Ahli yng nghynghrair Qatar.

Wedi chwe mis yn chwarae â Sinaloa ym Mecsico, cafodd Guardiola ei benodi’n reolwr ar Barcelona B ym mis Mehefin 2007.

Llwyddodd i ôl arwain y tîm i bencampwriaeth y Tercera Division yn ei dymor cyntaf a chyhoeddodd llywydd Barca, Joan Laporta, mai Guardiola fyddai’n cael ei benodi’n reolwr y tîm cyntaf ar draul Frank Rijkaard ar ddiwedd y tymor.

Yn ei dymor cyntaf wrth y llyw yn Barcelona llwyddodd y Blaugrana i ennill La Liga, Cynghrair y Pencampwyr, y Copa del Rey, y Supercopa de Espana, Uefa Super Cup a Cwpan Clybiau’r Byd – tipyn o gamp i reolwr newydd!