21 Ionawr

Ar y diwrnod yma yn 2009 bu farw cyn gapten Cymru a chyn reolwr Aston Villa, Vic Crowe.

Dechreuodd Crowe ei yrfa proffesiynol gydag Aston Villa ym 1952 a sicrhaodd ei le yn nhîm y Villans wedi i Danny Blanchflower adael Parc Villa i ymuno â Spurs ym 1954.

Cafodd siom enfawr wrth iddo orfod colli rownd derfynol Cwpan FA 1957, lle drechwyd Manchester United, oherwydd anaf, ond roedd ei berfformiadau wedi dal sylw rheolwr Cymru, Jimmy Murphy.

Wedi i Gymru sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 1958, ac er nad oedd wedi ennill yr un cap, cafodd Crowe ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y twrnament yn Sweden.

Roedd perfformiadau arbennig Derek Sullivan o Gaerdydd a Dave Bowen o Arsenal yn ystod y bencampwriaeth yn golygu na chafodd Crowe ei gyfle.

Ond daeth ei gyfle ym mis Tachwedd 1958 ac roedd yn addas mai ar faes ei glwb, Villa Park, yr enillodd y cyntaf o’i 16 cap wrth i Gymru sicrhau gêm gyfartal 2-2 gyda Lloegr.

Ar ddiwedd ei yrfa, cafodd Crowe gynnig i symud i America fel chwaraewr-hyfforddwr yn yr NASL gyda’r Atlanta Chiefs oedd o dan reolaeth ei gyd Gymro, Phil Woosnam.

Dychwelodd i Villa’r tymor canlynol fel hyfforddwr yr ail dîm ond pan gafodd Tommy Docherty ei ddiswyddo ar ddechrau 1970 cafodd Crowe ei bedoi’n reolwr.

Llwyddodd i arwain y clwb i rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn 1971 cyn i Villa gipio pencampwriaeth y Drydedd Adran ym 1972.

Ar ôl rhediad siomedig ar ddechrau tymor 1973/74, cafodd ei ddiswyddo a dychwelodd i America er mwyn rheoli’r Portland Timbers.

Bu farw yn 2009 yn 76-mlydd-oed yn dilyn salwch hir.