22 Ionawr

Ar y diwrnod yma ym 1911 chwaraewyd y gêm gyntaf erioed ar y Stadio Luigi Ferraris, cartref Genoa a Sampdoria.

Stadio Marassi oedd enw gwreiddiol y stadiwm, ar ôl yr ardal o ddinas Genoa ble lleolir y maes ond ym 1933 ailenwyd y stadiwm ar ôl Luigi Ferraris, cyn-gapten ar dîm Genoa.

Colli’r gêm o 2-1 yn erbyn Internazionale oedd hanes Genoa ar 22 Ionawr 1911 a bu’n rhaid aros tri mis nes i’r Rossoblu ennill eu gêm gyntaf yn eu cartref newydd yn erbyn Juventus.

Sefydlwyd clwb pêl-droed Genoa yn 1897 gan y Sais James Richardson Spensley, sy’n golygu mai hwnnw yw’r clwb hynaf o’i fath yn yr Eidal.

> Mwy: Heddiw mewn hanes: Ionawr 6

Blasodd y clwb gryn lwyddiant yn y blynyddoedd cynnar gan ennill Pencampwriaeth yr Eidal ar naw achlysur, ond yn 1924 oedd y tro diwethaf i’r clwb fod yn bencampwyr y wlad a bu’r clwb mor isel a’r drydedd adran mor ddiweddar a 2006.

Er bod Genoa wedi chwarae ar y maes ers canrif, dim ond ers eu sefydlu yn 1946 mae Sampdoria, tîm arall y ddinas, wedi rhannu’r Luigi Ferraris.

Enillodd Sampdoria’r Coppa Italia yn nhymor cyntaf Sgorio yn 1988/89 a gwelwyd La Samp yn ennill yr unig Scudetto yn eu hanes ar y rhaglen yn 1990/91 gyda chwaraewyr fel Attilio Lombardo, Roberto Mancini a Gianluca Vialli yn cyffroi Serie A.

Ailadeiladwyd y Luigi Ferraris i raddau helaeth yn 1989 ar gyfer cynnal gemau yng Nghwpan y Byd 1990 yn cynnwys gêm agoriadol yr Alban yn y gystadleuaeth pan gollodd tîm Andy Roxburgh yn erbyn Costa Rica a buddugoliaeth Gweriniaeth Iwerddon ar giciau o’r smotyn yn erbyn Romania yn yr ail rownd.

Roedd y Luigi Ferraris dan sylw rhyngwladol eto yn Hydref 2010 pan bu rhaid stopio gêm ragbrofol Ewro 2012 rhwng yr Eidal a Serbia oherwydd ymddygiad treisgar gan gefnogwyr o Serbia, daflodd nifer o fflacholeuadau ar y cae.